TG Lurgan yn wasanaeth ieuenctid Gwyddeleg sydd wedi cael 1m views ar Vimeo. Ddim yn siwr via ble, na sut mae nhw'mn tynnu mewn y fath ffigyrau, ond mae'n impresif. Cyfuniad da o edrychiad slic, comedi a cherddoriaeth boblogaidd.
Nath o neud i fi feddwl nad yw Stwnsh yn rhoi lot o sylw i gerddoriaeth, er bod hwnnw'n un o'r pethau sy'n gallu gwneud teli 'kids' groesi drosodd i teli 'oedolion' yn well na dim arall.
Fasa app fideos cerddoriaeth Cymraeg yn werth ei wneud? Pwy yn y byd darlledu fasa'n cyffwrdd cerddoriaeth gyda polyn barge?
(hefyd jest isio testio postio tweet ar Branch...)